Newyddion
Rhaglenni 2010-11
Mae'n amser trefnu eich rhaglen ar gyfer Medi 2010-Haf 2011. Am syniadau - edrychwch ar raglenni'r clybiau ar y wefan neu cysylltwch gyda Ruth neu Nia. Cofiwch gynnwys y Cwis Cenedlaethol yn eich rhaglen - nos Wener 19eg o Dachwedd; bydd manylion lleoliad eich rhanbarth chi i ddilyn. Anfonwch eich rhaglen ar e-bost i ni fel ein bod yn gallu ei rhoi ar y wefan, ynghyd a 2 gopi caled drwy'r post, os gwelwch yn dda.
Syniadau ar gyfer nosweithiau da:
Rhannwch eich syniadau ar gyfer nosweithiau da ar ein tudalen Facebook ni neu anfonwch at Ruth a Nia er mwyn eu rhoi ar wefan Clybiau Gwawr. Dyma rai sydd yn boblogaidd: BINGO; BLASU GWIN; SAETHYDDIAETH; TEITHIAU SIOPA A CHERDDED; DAWNSIO O BOB MATH - Edrychwn mlaen at glywed eich rhai chi
Clwb Gwawr y Pennau ar Dramp!
Clwb Gwawr y Pennau ar Dramp!
I gloi gweithgareddau Clwb Gwawr y Pennau am y flwyddyn aeth criw i Landeilo am benwythnos i fwynhau ac ymlacio! Dyma rai o'r merched yn mwynhau golygfeydd godidog o Barc Dinefwr a Dyffryn Tywi o ben to Tŷ Newton (Plasdy Dinefwr). Wedi cerdded i fyny'r allt i weld Castell Dinefwr roedd pawb yn barod am swper yn yr Angel.
Yn y llun: Delyth Ifan, Ellyw Jenkins, Rachael James, Llio Penri, Lisa Tomos, Debbie Benjamin a Rhian Nelmes
Newyddion am y Clybiau Gwawr
Gorffennaf 2010
Mae sawl clwb wedi bod ar hyd a lled Cymru i orffen tymor yr haf - rhai ar deithiau cerdded (a bwyta!), eraill i'r Rhasus yn Ffos Las. Cysylltwch os oes lluniau neu hanesion gyda chi i'w rhoi ar y Wefan, Facebook neu'r Wawr. Mae llun a hanes Clwb Gwawr y Pennau ar eu taith i Landeilo eisoes i weld uchod.
Mehefin 2010
Taith Gerdded Ganol Ha’
Taith Gerdded Noddedig 2010 y Clybiau Gwawr i godi arian at offer Ambiwlans Awyr Cymru a Merched y Wawr
Dydd Sadwrn, Mehefin 19eg am 10.30 yn y de a 2 o’r gloch yn y gogledd.
Trefnir taith gerdded noddedig y Clybiau Gwawr a Merched y Wawr eleni yn Llandudno yn y gogledd ac ym Mharc Margam yn y de (gw. y manylion am Daith Gerdded y de isod). Bu taith y Gogledd a’r De'r llynedd yn hynod lwyddiannus. Llwyddwyd codi swm anrhydeddus o £3000 tuag at Fudiad Gofal Cancr y Fron a Merched y Wawr. Ar y 3ydd o Fawrth eleni lansiwyd y llyfr, ‘Lwmp Mam’, gan y mudiad gyda’r arian a gasglwyd. Bydd mwy o wybodaeth am y llyfr arbennig hwn ar gael ar ddiwrnod y daith.
Taith Gerdded y Gogledd (am daith y De scroliwch lawr):
Mae’r daith gerdded gwta ddwy filltir (pedair os am ddychwelyd at y man cychwyn) yn agored i unrhyw nifer o aelodau ar draws Gogledd Cymru felly, beth am fynd ati i hel criw o aelodau eich cangen i ymuno â ni?
Pwyntiau Pwysig:* Bydd y daith yn cychwyn am 2:00 y p ger Pwll Padlo Craig y Don (gyferbyn ag arwydd Fferm Bodafon ac Ysgol y Gogarth) ar ochr orllewinol y Prom. Byddwn yn cerdded ar hyd y Prom o Drwyn y Fuwch (Little Orme) at Dollborth y Gogarth.
* Mae digon o le parcio am ddim ar y ffordd – tu draw i'r pwll padlo.
* Hyd y daith fydd tua 2 filltir (neu bedair wrth ddychwelyd at y man cychwyn).
* Mae’n daith hawdd iawn ond, gwisgwch ‘trainers’ neu esgidiau cerdded addas.
* Ystyriwch fynd â photel ddŵr ac eli haul gyda chi ar y daith, yn enwedig os bydd y tywydd yn dwym.
* Os bydd y tywydd yn anffafriol, bydd y daith yn mynd yn ei blaen, felly chwiliwch am ddillad glaw o flaen llaw rhag ofn!
* Mae croeso i chi ddod â bygis ar y daith. Ni fydd unrhyw rwystr o ran mannau serth.
* Yn olaf, dewch ag eitem i ddangos (fel arwydd o’n Cymreictod), rhywbeth fel baner draig goch, crys rygbi, cenhinen ayb.
Ø Mae’n bwysig nodi bod modd i ferched (mae hyn yn cynnwys plant) sydd ddim yn aelodau ymuno â ni ar y daith.
Ni fydd y mudiad yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb os bydd rhywbeth yn digwydd iddynt ar y daith. NEU os am ymaelodi ar y diwrnod a dod o dan adain y mudiad – mi fydd angen £3 ar y diwrnod. Ar yr un diwrnod, bydd aelodau’r De yn mwynhau eu taith gerdded noddedig Ganol Ha’ ym Mharc Margam. Felly, mae hon yn daith genedlaethol i ni. Gobeithio’n fawr y gallwch ddod i ymuno â ni ar y daith yn Llandudno, gan wneud eleni yn fwy llwyddiannus hyd yn oed na'r llynedd.
Ffurflen Taith Gerdded Noddedig Clybiau Gwawr
Taith Gerdded y de:
Mae'r daith yn dair milltir. Fe fydd yn dechrau am 10.30 ym Maes Parcio Parc Margam. Mae'r Parc yn codi £1.70 i bob person fydd yn cymryd rhan ond ni fydd tal am barcio. Bydd modd dod a phlant neu i wthio bygis am o leiaf rhan o'r daith. Os yn braf dewch a phicnic i fwyta gyda'n gilydd ar ol y daith. Os na, mae caffi yno os dymunir. Dewch ag unrhyw eitem sy'n cynrychiolu Cymreictod - am fwy o fanylion ynglyn a hyn neu am yswiriant, gweler uchod.
Noson Jazz a Joio
Nos Wener Mehefin 11eg 7.30 tan ganol nos yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin. Neil Rosser a'r Bysgars a mwy. BYO : Dewch a'ch diod eich hun - Nibls ar werth yno. Mynediad am Ddim. Croeso i aelodau Clybiau Gwawr a ffrindiau.
Mai 2010 Noson BODY SHOP yn y Clwb Monty Drenewydd i fynd ati i sefydlu Clwb Gwawr yno, Nos Iau , Mai 13eg am 7:30 yh.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Sarah Astley ar 01686 623833 neu Nia Llywelyn 01650511865
Gwyl Fai Merched y Wawr a Chwaraeon Blynyddol - 15 Mai, Machynlleth
Ebrill 2010
Clwb Gwawr Dyffryn Tanant
Nos Iau, 15ed o Ebrill wnaeth y merched fwynhau noson yn trin a thrafod ceir gyda Stephen Morgan wrth y llyw. Cawson ni lawer o hwyl gyda cwis nol yn y dafarn i weld faint oedd pawb wedi dysgu (lle roedd hi llawer mwy cynnes!)LLuniau : maes parcio Llangynog, Sir Drefaldwyn
Sioe Ffordd yn Nrefach Felindre
Nos Wener 16eg Ebrill, 7.30-11 y.h. yn Amgueddfa Wlan Cymru, Drefach Felindre : Comedi a Chan ar gyfer y Clybiau Gwawr gyda'r Ddwy Ddafydd, Catrin a Fflur. Diodydd a Nibls ar werth. Mynediad am Ddim : Croeso i aelodau a ffrindiau.
Sesiynau o hwyl- CADW’N FYWIOG: (Ewch nol i dop y dudalen - o dan 'Newyddion'- Sesiynau ffitrwydd)
Canolfan Hamdden Arfon
Noson Goginio gyda Rhodri Ogwen a Noson Eidalaidd – mae Clwb Gwawr y Gwenyn, Llanelli wedi bod yn wenyn bach prysur iawn ers sefydlu yn ystod mis Mawrth! Bydd y Noson Goginio yn cael ei ddangos cyn hir ar raglen ‘Cyfnewid’ S4C. Dyddiad y cyfarfod nesa yw Nos Iau Ebrill 22ain (Nodwch y newid dyddiad) Dewch i ymuno gyda nhw yn gwneud Sesiwn Ioga yn Neuadd Llangennech am 7.30.
Am fwy o fanylion cysylltwch gyda Sian Phillips ar 01554 755994 neu Ruth Morgan ar 01269 860454.
Croeso i bawb.
Mawrth 2010
Lawns CG LLanelli
CLWB GWAWR FAMA, SIR Y FFLINTDyma luniau’r Noson yn Siop Fferins Spavens, Yr Wyddgrug. Llwyddodd pymtheg o ferched dewr Clwb Gwawr Fama i ddod trwy’r eira mawr ar Nos Wener yr 8fed o Ionawr i Siop Fferins Spavens yn Yr Wyddgrug. Dydi tipyn o eira ddim yn gallu atal marched Sir y Fflint rhag dod allan i fwynhau! Cawsom y cyfle i ddangos ein talentau celf trwy beintio plât neu baned. Roedd o’n brofiad therapiwtig iawn!! Yr unig beintio mae nifer ohonom wedi gwneud ers gadael yr ysgol ydi hefo’n plant yn y Cylchoedd Ti a Fi lleol!!Cafodd pawb baned bendigedig o goffi a chrepe gyda swp o hufen ia, gyda phob math o flasau gwahanol. Cafwyd hufen ia mor wahanol â blas Turkish Delight a Bara Brith!!Diolch i Rhian Spaven ar staff am eu croeso cynnes ar noson mor oer, ac edrychwn ymlaen at weld y datblygiadau yn y siop wrth iddynt addasu’r seler yn ystafell parti mawr.
Chwefror 2010
Clecs o'r Clybiau - Y Wawr Gwanwyn 2010
'Noson Goginio a dechrau Clwb Gwawr yn ardal Llanelli - Dewch a'ch diod eich hun (BYO)'

Tudalennau o'r Wawr - Gaeaf
Clybiau Newydd
Ionawr 2010
CLWB GWAWR FAMA – SIR Y FFLINT Mi fuodd cyfarfod swyddogol cynta Clwb Gwawr Fama nos Wener y 6ed o Dachwedd. Nan Powell-Davies a Buddug Selway-Jones oedd yn gyfrifol am drefnu noson “Gwledd i’r Bola!” gyda Jan Wilson Jones (enillydd cystadleuaeth coginio S4C Casa Dudley!). Cafwyd noson hwyliog iawn gyd chwis am fwyd a digon o wledd i’r bola yn ogystal. Bydd y noson nesaf yn cael ei gynnal ar yr 8fed o Ionawr. Os am fwy o fanylion cysylltwch a Rhian Davies: rhif ffon 01352744040. Dyma’r rhaglen am 2010 felly os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint rhowch y dyddiadau yn eich dyddiadur rwan!Ionawr 8fed, 2010 Noson Delwedd DegMawrth 5ed, 2010 Noson Go CartioMai 7fed, 2010 Noson Brethyn CartrefGorffennaf 2il, 2010 Anturiaeth Awyr Agored
-----------------------------------------------
CLWB GWAWR CRWST - LLANRWST
Bydd noson Caws a Gwin yn cael ei drefnu ar nos Wener, 22ain o Ionawr yn Amser Da, Llanrwst er mwyn denu aelodau newydd i gangen Clwb Gwawr Crwst ac i gael syniadau newydd. Am fwy o fanylion cysylltwch a: Esyllt Tudur - Swyddog Treftadaeth a IaithMenter Iaith Conwy 01492 642357
Hydref 2009
2 Glwb newydd wedi dechrau yn y de:
- Clwb Gwawr Ladis Lochtyn yn ardal Llangrannog, Brynhoffnant a Sarnau
- Clwb Gwawr Genod Gwy yn ardal Llanfair ym Muallt.
Am fwyl o fanylion gweler 'Eich Hardal Chi' ar y wefan
Medi 2009
'Tudalennau o'r Wawr - Hydref'
Mehefin 2009
Taith Gerdded y Clybiau Gwawr Mehefin 13eg 2009Codwyd dros £3,000 at elusennau gan y Clybiau Gwawr ar Fehefin 13eg 2009. Dyma rhai o aelodau Clybiau Gwawr y de ym Mharc Pen-bre. Roedd aelodau o glybiau'r gogledd wedi cerdded o gwmpas Llyn Tegid, Y Bala.
Mai 2009
'Tudalennau o'r Wawr - Haf'
Ebrill 2009
'Tudalennau o'r Wawr - Gwanwyn'
Tachwedd 2008
'Tudalennau o'r Wawr'
Hydref 2008
Clybiau Newydd
CG Barcud: Mandy Morse, Gwynfil, Llangeitho, Tregaron, Ceredigion, SY25 6QU; 01974 821352.
CG Y Fenni: Eleri Hodder, Maes y Coed, Mamhilad, Sir Fynwy, NP4 8RG; (01873 880 668);
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
CG Caerdydd: Carys Amos, 15 Marguerites Way, Westfield Park, Caerdydd, CF5 4QW, Ffôn : 07753 618774;
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
CG Clydau: Gwenan Phillips, Perthi Aur, Tegryn, Llanfyrnach; Ffôn : 01239 698419;
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
Taith Gerdded y Clybiau Gwawr a Merched y Wawr
COFIWCH AM Y TEITHIAU CERDDED CENEDLAETHOL DYDD SADWRN NESA - 19 o FEHEFIN . Darllenwch lawr am fwy o fanylion
YMUNWCH A NI AM HWYL !
Teithiau Cerdded Noddedig Clybiau Gwawr i godi arian at offer Ambiwlans Awyr Cymru a Merched y Wawr.
Bydd Teithiau Cerdded Noddedig y Clybiau Gwawr a Merched y Wawr eleni yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn y 19eg o Fehefin.
Bydd dwy daith gerdded yn cael eu cynnal ar y diwrnod, un yn y Gogledd a'r llall yn y De.
Taith Gerdded Y De
Tua tair milltir o hyd fydd y daith gerdded yma, ac bydd yn dechrau ac yn gorffen ym maes parcio Parc Margam. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at offer i Ambiwlans Awyr Cymru a Merched y Wawr. Mae croeso i aelodau clybiau, canghennau o Ferched y Wawr a ffrindiau* gymryd rhan. Mae Parc Margam yn codi £1.70 ar bob person fydd yn cymryd rhan. Fydd dim tâl am barcio yn y Maes Parcio yno. Byddwn yn sicrhau fod modd i'r rhai sydd eisiau dod a phlant neu i wthio bygis i wneud y daith, neu o leia y rhan fwyaf ohoni. Sue Leyshon fydd yn ein harwain ar y daith. Bydd yn bwysig i chi wisgo dillad addas ar gyfer y daith, esgidiau cerdded cyfforddus, cotiau glaw os yn bwrw, eli haul os yw'n braf, bydd angen dwr arnoch chi. Mae croeso i chi wisgo unrhyw eitem/au sy'n cynrychioli Cymreictod e.e Crys Rygbi Cymru, Het a/neu shôl Gymreig, Baner Cymru ayyb. Dewch a phicnic gyda chi, neu mae caffi ar ddiwedd y daith. Cysylltwc gyda Ruth Morgan am fwy o wybodaeth ar 01269 860454 / 07811 692933 neu e-bostwich
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
gallwch lawrlwytho'r ffurflen noddi yma
Taith Gerdded Y Gogledd
Trefnir Taith Gerdded noddedig Gogledd Cymru y Clybiau Gwawr a Merched y Wawr eleni yn Llandudno. Bydd y daith yn dechrau am 2.00y.p wrth Bwll Padlo Craig y Don (gyferbyn ag arwydd Fferm Bodafon ac Ysgol y Gogarth) ar ochr orllewinol y Prom. Byddwn yn cerdded ar hyd y Prom o Drwyn y Fuwch (Little Orme) at Dollborth y Gogarth. Mae'r daith gwta 2 filltir (pedair os am ddychwelyd at y man cychwyn). Mae croeso i aelodau clybiau, canghennau o Ferched y Wawr ymuno yn y daith ac mae croeso i ffrindiau* ddod i gerdded hefyd. Mae'n daith cerdded hawdd iawn, ond, maen bwysig eich bod yn gwisgo trainers neu esgidiau cerdded cyfforddus. Cofiwch ddod a chôt law os bydd hi'n bwrw ac eli haul os bydd yn bwrw a photel ddwr gyda chi. Mae croeso i chi ddod a bygis ar y daith. Ni fydd unrhwy rwystr o ran mannau serth. Mae croeso i chi wisgo dilledyn neu dod ac eitem yn arwyddocâd o'n Cymreictod, rhywbeth fel Crys Rygbi Cymru, Cenhinen Bedr ayyb
Os am fwy o wybodaeth am daith y Gogledd cysylltwch gyda Nia Llywelyn ar e-bost:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
. neu ffoniwch 01650 511865
Welwn ni chi yno !