Clybiau Gwawr

Croeso i Glybiau Gwawr

Cyfle i fenywod ifanc i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, fel arfer unwaith y mis mewn tafarn neu glwb.  Cyfle unigryw i chi....
  • gyfarfod pobl newydd
  • gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau yn amrywio o flasu gwin a chwarae bingo i ddawnsio salsa a saethyddiaeth
  • deithio
  • ddysgu sgiliau newydd
  • gael hwyl

  • a llawer mwy o HWYL!

 Cefnogwyd y wefan yma gan :

  

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau diweddar darllenwch i lawr.............

 

Bwletin

 

Teithiau Cerdded

 

 

 

Taith Margam, yn rhan o Daith Gerdded
Ganol Haf, 2010.

Diolch i bawb a ddaeth i'r Teithiau Cerdded Ganol Haf, ar  Mehefin

y 19eg ym Mharc Margam a

Llandudno, er mwyn codi

arian tuag at offer i Ambiwlans

Awyr Cymru a'r Merched y Wawr.

 Taith Prom Llandudno.
Daeth criw o ferched ynghyd yng Ngogledd Cymru hefyd i gerdded. Dyma lun ohonynt wedi’r daith.

 

 

 

Sioeau Ffordd - Clybiau Gwawr 

 

Sioe Caerfyrddin.
Nos Wener, yr 11eg o Fehefin.

Y merched yn mwynhau'r adloniant yn y
Noson Jazz a Joio yng Nghaerfyrddin. 
Cawsom noson llawn o gerddoriaeth, comedi a
llawer iawn, iawn o joio!!

 

Un o'r aelodau yn mwynhau diferyn o win tra'n mwynhau'r adloniant yn y noson Jazz a Joio yng Nghaerfyrddin

 

 

Smwddis y Steddfod
Hoffai Ruth a Nia ddiolch i bawb o’r Clybiau Gwawr wnaeth gynorthwyo gyda’r smwddis ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron. Tipyn o hwyl !