Dechrau Clwb Gwawr
Os am ddechrau clwb, cysylltwch gyda'r Swyddog Hyrwyddo yn eich ardal chi neu ffoniwch Swyddfa Merched y Wawr ar 01970 611661
1.NIFER I DDECHRAU CLWB
Mae 8 yn ddigon i ddechrau clwb
2.OEDRAN
Ar gyfer menywod ifainc, ond mae oedrannau yn amrywio o glwb i glwb...!
3. GWNEUD RHESTR O BAWB SYDD YN Y CYFARFOD CYNTAF
Enw, Cyfeiriad, Rhif ffôn ac e-bost pawb sy’n bresennol
Yr un peth i ddarpar aelodau
4. LLE I GWRDD
Fel arfer unwaith y mis mewn tafarn neu glwb
Dylid drafod opsiynau yn y cyfarfod cyntaf a chytuno ar fan cwrdd
5. DEWIS SWYDDOGION
Cysylltydd : Dylid ethol Cysylltydd er mwyn derbyn gohebiaeth a bod yn gyswllt
Trysorydd : Gweler canllawiau ar waelod tudalen 2 *
Is-drysorydd : yn gyfrifol am gasglu copïau o’r Wawr o rhyw siop leol pob 3 mis
6. DEWIS ENW I’R CLWB
Gall fod yn seiliedig ar enw’r ardal neu beidio
7. TREFNU RHAGLEN
Un neu ddwy yn gyfrifol am bob mis, yn lle bod y Cysylltydd yn gyfrifol am y cyfan, gan nodi enw(au), rhif(au) ffôn a cyfeiriad e-bost y trefnwyr.
Mae rhyddid i bob clwb drefnu eu rhaglen, ond cynnal popeth drwy’r Gymraeg
Yn ddelfrydol, dylid llunio rhaglen newydd cyn yr hâf er mwyn cychwyn gyda’r rhaglen newydd dechrau Medi.
8. TÂL AELODAETH
£15 y flwyddyn, i’w gasglu gan y Trysoryddes ym mis Medi. Cedwir £3.00 gan y clwb.
Ar ôl danfon yr Arian Aelodaeth at y Swyddfa, bydd y Clwb newydd yn derbyn £50 o’r Gronfa Genedlaethol.
Bydd pob aelod yn debyn rhifyn o gylchgrawn ‘Y Wawr’ bedair gwaith y flwyddyn am ddim.