Clybiau Gwawr
Croeso i Glybiau Gwawr
- Gyfarfod pobl newydd
- Gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau yn amrywio o flasu gwin a chwarae bingo i ddawnsio salsa a saethyddiaeth
- Deithio
- Ddysgu sgiliau newydd
Gael HWYL!!
A llawer mwy o HWYL!!!
Cefnogwyd y wefan yma gan :

Bwletin
CLWB GWAWR FAMA – SIR Y FFLINT
Mi fuodd cyfarfod swyddogol cynta Clwb Gwawr Fama nos Wener y 6ed o Dachwedd. Nan Powell-Davies a Buddug Selway-Jones oedd yn gyfrifol am drefnu noson “Gwledd i’r Bola!” gyda Jan Wilson Jones (enillydd cystadleuaeth coginio S4C Casa Dudley!). Cafwyd noson hwyliog iawn gyd chwis am fwyd a digon o wledd i’r bola yn ogystal.
Bydd y noson nesaf yn cael ei gynnal ar yr 8fed o Ionawr. Os am fwy o fanylion cysylltwch a Rhian Davies: rhif ffon 01352744040. Dyma’r rhaglen am 2010 felly os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint rhowch y dyddiadau yn eich dyddiadur rwan!
Ionawr 8fed, 2010 Noson Delwedd Deg
Mawrth 5ed, 2010 Noson Go Cartio
Mai 7fed, 2010 Noson Brethyn Cartref
Gorffennaf 2il, 2010 Anturiaeth Awyr Agored
Sioeau Ffordd - Clybiau Gwawr
Roedd y cyntaf yn neuadd Ddinesig Llandeilo nos Sadwrn Hydref y 17eg gyda Ryland Teifi a’r Band
I DDOD YN 2010...Nos Wener 16/4/10 7:30 y.h. : Noson Gomedi a Chân yn y Felin Wlân Drefach Felindre gyda’r ddwy Ddafydd : Catrin a Fflur. Mae’r lle yn gyfyng, felly y cyntaf i roi eu henwau i fewn bydd y cyntaf i’r Felin!
Codwyd dros £3,000 at elusennau gan y Clybiau Gwawr ar Fehefin 13eg 2009. Dyma rhai o aelodau Clybiau Gwawr y de ym Mharc Pen-bre. Roedd aelodau o glybiau'r gogledd wedi cerdded o gwmpas Llyn Tegid, Y Bala.
|
